Ymweliad Baner Fasnach Deg Cymru
CYMRU – GWLAD FASNACH DEG
2006: Dechreuodd clymblaid o gymunedau Masnach Deg ymgyrchu am i Gymru fynd yn Wlad Fasnach Deg.
2007: Ymunodd llywodraethau Cymru a’r Alban gyda’i gilydd i gytuno ar y meini prawf ar gyfer statws Masnach Deg.
2008: Arolygodd panel rhyngwladol o arbenigwyr ar Fasnach Deg y dystoliaeth am gefnogaeth i Fasnach Deg yng Nghymru a ddarparasid gan grwpiau ymgyrchu, a phenderfynu bod lefel y gefnogaeth yn cwrdd â’r meini prawf ar gyfer cam un o statws Gwlad Fasnach Deg. Yr her nesaf yw newid patrymau treuliant a chaffaeliad i gynnwys rhagor o gynnyrch Masnach Deg.
Cyrhaeddodd CEREDIGION statws Masnach Deg ym mis Medi 2008 gan ymuno a thair ar ddeg o siroedd eraill yng Nghymru sydd hefyd wedi cwrdd â’r pum nod.
BANER FASNACH DEG CYMRU
Er mwyn dathlu statws Masnach Deg Cymru, cychwynodd baner genedlaethol Fasnach Deg ei thaith ym mis Mehefin 2008 gyda’r nod o deithio trwy’r holl 22 o siroedd yng Nghymru cyn cyrraedd Caerdydd Ddydd Gŵyl Ddewi, Mawrth 1af 2009.
Bu’r faner yng Ngheredigion am ddwy wythnos o fis Tachwedd 29ain yn cael ei harddangos mewn ambell ddigwyddiad lleol ac yn ymweld ag ysgolion, colegau a mudiadau lleol yn ogystal â swyddfeydd cynghorion Aberystwyth a Cheredigion.
Fe gyhoeddwyd bod Llanbedr-Pont-Steffan yn dref Masnach Deg yn 2005 a chyrhaeddodd Aberteifi statws Masnach Deg yn 2008. Mae gan ABERAERON grwp ymgyrchu Masnach Deg sy’n gweithio i ennill statws Masnach Deg. Mae’n rhaid sefydlu grwpiau yn Llandysul a Thregaron.
GYDA’R CLOC O’R TOP
Wrth Neuadd y Dref gyda’r Maer Criw bad o glwb rhwyfo Aberaeron
Ysgol Gynradd Comins Coch Aberystwyth i Aberaeron
Ysgol Grnradd Llangynfelyn Croeso yn Aberaeron gyda’r Maer
Ysgol Gynradd Llanilar Ysgol Gynradd Aberaeron
Canolfan Fethodistaidd St Paul Trosglwyddo’r faner ym Mhen Morfa Cinio Baracaws Cymorth Cristnogol (cliciwch ar unrhyw lun i’w fwyhau)
Lluniau: Y Clwb Rhwyfo (Chris Haines); y gweddill (Ysgolion a Grŵp Masnach Deg)