Cysylltiadau â grwpiau a chyrff Masnach Deg
Ceir grwpiau Masnach Deg eraill yng Ngorllewin Cymru:

Masnach Deg Llanbedr Pont Steffan
Masnach Deg Aberteifi
Masnach Deg Aberaeron

Mae manylion cyswllt ar gyfer  grwpiau Masnach Deg yng ngweddill Cymru i’w cael oddi wrth y  Fforwm Masnach Deg Cymru  a’r Fairtrade Foundation.

Mae’r canlynol yn darparu gwybodaeth arall am Fasnach Deg:
Sefydlwyd y Fairtrade Labelling Organisation International (FLO) ym 1997 ac erbyn hyn mae’n cydlynu gwaith mentrau Masnach Deg mewn 18 o wledydd yn Ewrop a Gogledd America, ac hefyd Awstralia, Seland Newydd a Siapan.

Mae aelodaeth Bwrdd FLO yn cynnwys pedwar cynhyrchwr o’r Trydydd Byd, dau bartner masnachol a chwe chynrychiolydd o fentrau cenedlaethol megis y Fairtrade Foundation.

Mae FLO hefyd yn cofrestru grwpiau cynhyrchwyr, allforwyr a mewnforwyr tystiedig. Mae FLO Cert Ltd, cwni a sefydlwyd gan FLO, yn gosod safonau, yn sicrhau archwiliadau rheolaidd ar y cynhyrchwyr a’r partneriaid masnachol, ac hefyd yn sicrhau bod y cynhyrchwyr yn derbyn y taliadau a gwarentir iddynt.
 
Cysylltwch â ni
Sefydlwyd y Fairtrade Foundation ym 1992 gan gonsortiwm o gyrff cenedlaethol ym maes datblygiad, er mwyn hybu Masnach Deg. Mae’n rhoi awdurdod i ddefnyddio’r label Masnach Deg ar gynnyrch sydd ar gael i’r fasnach fanwerthu a’r fasnach arlwyo yn y D.U.; mae hyn yn rhoi gwaranti bod y cynnyrch wedi’i fasnachu’n deg yn ôl safonau rhyngwladol.
BLAENDDALEN.
DEWISIADAU.
GRŴP.
ORIEL.
SIOPAU.
CAFFIS.
CEFNOGAETH.
MASNACH DEG.
BRANDIAU MOESEGOL.
CYSYLLTIADAU.
Newidiwch heddiw
Dewiswch Fasnach Deg
FAIRTRADE FORTNIGHT PARADE '06
AF
IFAT GLOBAL BANNER VISITS ABER '07
AF