BETH YW MASNACH DEG?
Masnach Deg yw masnach sy’n gweithio mewn ffordd decach i ffermwyr ac i weithwyr mewn gwledydd sy’n datblygu.
Mae Masnach Deg yn gwaranti:
· Prisiau i ffermwyr sy’n cwrdd â chostau cynhyrchu ac yn darparu cyflog byw
· Premiwm i ddatblygu’r busnes a’r gymuned
· Cysylltiadau masnach sy’n fwy uniongyrchol ac yn fwy hirhoedlog
· Gwell hawliau i weithwyr
· Safonau amgylcheddol da
PAM BOD ANGEN MASNACH DEG?
Nid yw pobl mewn gwledydd sy’n datblygu, sy’n cynhyrchu llawer o’r pethau ‘rydym yn eu bwyta a’u hyfed, yn cael rhan deg o’r cyfoeth a greir gan fasnach. Mae rheolau masnach ryngwladol yn ffafrio gwledydd cyfoethog ar draul y rhai tlawd. Mae’r prisiau byd-eang y mae ffermwyr bychain yn eu derbyn am y fath gnydau â the, coffi a chocoa yn amrywio’n wyllt. Mae amodau gwaith yn aml yn wael, gyda chyflogau pitw, diffyg sicrwydd cyflogaeth a hawliau cyfyngedig i weithwyr.
PAM NOD MASNACH DEG?
Mae’r Nod Masnach Deg, a gofrestrir gyda’r UE, yn gymorth i siopwyr i adnabod cynnyrch a fasnechir yn deg. Trwyddedir ei ddefnyddio ar gynnyrch gan y Fairtrade Foundation, ac mae hyn yn dystiolaeth bod y cynnyrch yn cael ei fasnachu yn ôl safonau rhyngwladol. Mae dewis Masnach Deg yn golygu bod prynu o’r silff yn effeithio er gwell ar fywydau a lles cynhyrchwyr bregus yn y Trydydd Byd.
Ymwybyddiaeth y prynwyr: dangosodd arolwg gan Mori yn 2005 fod bron i 50% o’r boblogaeth mewn oed yn gallu adnabaod y Nod tystysgrif Masnach Deg.
MAINT MASNACH DEG
Ym 2004 ‘roedd cyfanswm gwerthiannau Masnach Deg tros £140m, cynnydd o 51% ar 2003, sy’n gwneud marchnad Masnach Deg y D.U. y fwyaf yn y byd. Ceir erbyn hyn fwy na 1000 o gynhyrchion Masnach Deg, o’u cymharu â dim mwy na 150 ym 2003.
Mae’r premiwm Masnach Deg sy’n llifo o werthiannau led-led y byd ar hyn o bryd yn dosbarthu $100m ychwanegol i gynhyrchwyr ac i’w teuluoedd – mwy na 5m o bobl mewn 58 o wledydd yn yr Affrig, Asia ac America Lladin
Prynwch gynnyrch â‘r Nod Masnach Deg