‘Cyhoedda cwmni Cadbury’s y bwriad i ennill ardystiad Masnach Deg ar gyfer ystod siocledi Dairy Milk’
‘Datgelodd Mars gynlluniau i ennill caniatàd i ddefnyddio Sêl Cynghrair y Forestydd Glaw ar ragor o gynnyrch’.
Mae mwy a mwy o gwmnïau’n cael eu trwyddedu i ddefnyddio un neu’i gilydd o rychwant o nodau neu seliau moesegol ar rai o’u cynhyrchion. Mae’n hawdd drysu’n lân am y gwahaniaeth rhwng brandiau ‘moesegol’ gwahanol.
Bwriad y Nod Masnach Deg a Sêl Cynghrair y Forestydd Glaw fel ei gilydd yw hybu dulliau gwell o amaethu mewn gwledydd sy’n datblygu, a hyrwyddo newid er gwell yn y byd. Fel aelodau llawn o’r International Social and Environmental Accreditation and Labelling (ISEAL) Alliance, mae Masnach Deg a Chynghrair y Fforestydd Glaw ill dau yn gweithredu yn ôl gofynion ymarferiad da o ran gosod ac ardystio safonau rhyngwladol. Maent hefyd yn dilyn yr ymarferiad gorau o ran gwireddiad. Mae’r ddau frand yn berthnasol i gwmnïau mewn masnach foesegol sydd yn cefnogi gwella hawliau pobl a’r blaned, ond maent yn trin y broblem mewn ffyrdd gwahanol.
Bwriedir y disgrifiadau byrion o bob brand a ganlyn i’ch cynorthwyo i wneud dewisiadau mwy gwybodus am ba bethau y byddwch yn eu prynu mewn siopau a llefydd bwyta.
• Mae Masnach Deg yn frand rhyngwladol sy’n gweithio i leddfu tlodi ac i gefnogi datblygiad cynaliadwy. Ei phwrpas yw creu cyfleoedd ar gyfer cynhyrchwyr a gweithwyr mewn gwledydd sy’n datblygu y mae’r system gonfensiynol ‘masnach rydd’ yn eu rhoi dan anfantais economeg a’u gwthio i’r ymylon.
• Trefnir Masnach Deg yn gydwladol gan y Fairtrade Labelling Organisation (FLO) gyda mewnddodiant gan gynhyrchwyr o bedwar ban byd a chan mwy na 20 o gyrff cenedlaethol Masnach Deg. Ariennir y FLO yn rhannol gan gymorthdaliadau o du’r Cenhedloedd Unedig, yr UE ac asiantaethau datblygiad llywodraethau, a chan gyfundrefnau di-lywodraethol ym maes datblygu economaidd.
• Mae cyrff sy’n cynrychioli cynhyrchwyr, yn nodweddiadol ffermwyr bychain wedi’u trefnu mewn cyrff cydweithredol, yn cael eu harolygu gan gorff gwahanol sef FLO Cert, gan ddefnyddio dulliau a wireddwyd yn annibynnol. Sicrha hyn y cyflawnwyd y safonau Masnach Deg a osodwyd gan FLO. Mae’r rhain yn cynnwys cynaliadwyedd, amodau gwaith gweddus, democratiaeth yn y lle gwaith a pharch at yr amgylchedd. Mae FLO Cert hefyd yn cadw golwg ar fasnachwyr a chwmnïau i sicrhau y cyflawnir gwarantau masnachu.
• Nodwedd hanfodol Masnach Deg yw talu isafbrisiau gwarantiedig (neu pris y farchnad pan fydd hwnna’n uwch) i gynhyrchwyr i sicrhau bod ganddynt fodd i fyw gynaliadwy. Telir hefyd chwanegbris sydd yn gyfartal i ganran bach o’r pris Masnach Deg i gyfundrefn cynhyrchwyr lleol i ariannu cynlluniau lleol. Ymhlith y rheiny bu sefydlu clinigau ac ysgolion, datblygu ffyrdd, gwella planhigion cnwd a benthyg symiau bychain i bobl leol i sefydlu busnesau newydd - cynlluniau i gyd sy’n fuddiol i’r gymuned ehangach.
• Mae pob cyfundrefn Masnach Deg cenedlaethol yn trwyddedu cwmnïau i ddefnyddio’r Nod Masnach Deg ar gynhyrchion penodol. Mae’n rhaid i gynhyrchion anghymysg, megis te a choffi, gael eu hardystio fel 100% Masnach Deg. Ar gyfer cynhyrchion ag ynddynt nifer o gynhwysion, mae’n rhaid i’r rhai y mae safonau Masnach Deg yn gymwys iddynt gael eu hardystio fel 100% Masnach Deg. Codir tâl ar gynhyrchwyr ar gyfer ardystio, ac ar gwmnïau am drwyddedau i ddefnyddio’r nod.
• Mae Cynghrair y Fforestydd Glaw yn hybu strategaeth i warchod bio-amrywiaeth ac i sicrhau bywoliaethau cynaliadwy gan drawsffurfio ymarferiadau trin y tir , ymarferiadau busnes ac ymddygiad defnyddwyr ym meysydd coedwigaeth, amaethyddiaeth a thwristiaeth.
• Cyfundrefn ddi-lywodraethol yw Cynghrair y Fforestydd Glaw, â’i chartref yn yr Unol Daleithiau. Fe’i ariennir gan Asiantaeth yr UD dros Ddatblygiad Rhyngwladol, a chan asiantaethau preifat. Y mae gan y Cynghrair hefyd gysylltiadau cryfion adeileddol ac ariannol gyda chwmnïau, trwy gymorthdaliadau, nawdd a chynlluniau lle mae’r cwmnïau yn rhoi arian i gyd-weddu â rhoddion gan eu gweithwyr.
• Mae Cynghrair y Fforestydd Glaw yn ardystio’r dulliau o amaethu a ddefnyddir ar ffermydd o bob maint, o ffermydd cyd-weithredol i ystadau eang. Mae’n rhaid iddynt gwrdd â safonau’r Sustainable Agricultural Network (SAN), clymblaid o grwpiau cadwriaethol blaenllaw gan gynnwys y Cynghrair ei hun. Mae safonau SAN yn cael eu gwireddu’n annibynol, ac yn cwmpasu 10 agwedd penodol, gan gynnwys rheoli gwastraff, cadwriaeth dŵr, pridd a bio-amrywiaeth ac hefyd sicrhau bod gan y gweithwyr gyfle i gael gofal iechyd, tai gweddus ac addysg i’w plant.
• Gwarantir bod cyflogau’n cwrdd â’r lleiafswm cyfreithiol cenedlaethol, na sydd o reidrwydd yn ‘gyflog byw’. Nid oes lleiafbris na phris gwarantiedig ar gyfer cynnyrch o ffermydd a ardystiwyd. Disgwylir i welliannau yn safon y cynnyrch sy’n deillio o ardystiad denu prisiau uwch.
• Gellir rhoi sêl y Cynghrair i gynhyrchion anghymysg megis te neu goffi ar yr amod y daw o leiaf 30% ohono o fferm wedi’i ardystio gan y Cynghrair. Tra bod cynhyrchwyr yn gorfod talu am ardystiad, mae defnyddio’r sêl yn ddi-dâl i gwmnïau.
Y mae gan lawer o gynnyrch ardystiad sengl. Ond ceir rhai y mae ganddynt dri ardystiad: Masnach Deg, Organig A Chynghrair y Fforestydd Glaw (e.e. coffi oddi wrth Prêt à Manger, Marks & Spencer a Matthew Algie. Felly nid yw’r tri chynllun yn nacáu y naill y llall!
Ceir mwy na 750 o gyfundrefnau gynhyrchwyr sydd wedi’u hardystio yn Fasnach Deg yn 58 o wledydd, sy’n cynrychioli mwy na filiwn o amaethwyr a gweithwyr. Ynghyd a’u teuluoedd a’r rhai sydd yn ddibynnol arnynt , amcangyfrir bod mwy na 5 miliwn o bobl yn elwa’n uniongyrchol o Fasnach Deg.
Y mae Cynghrair y fforestydd Glaw yn gweithredu mewn mwy na 60 o wledydd ar draws y byd ac mae wedi ardystio mwy na 131 miliwn o erwau o goedwig a thir amaethyddol. Ardystwyd mwy na 1.5 miliwn o erwau o dir amaethyddol.
Gellir cael rhagor o wybodaeth yn y gwefannau a ganlyn:
Fairtrade Labelling Organisation - www.fairtradenet.org Fairtrade Foundation (DU) - www.fairtrade.org.uk